Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 7 Chwefror 2013 |
|
|||
Amser: |
10:30 - 12:00 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2013(3) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Non Gwilym (Swyddog) Mike Snook, National Assembly for Wales (Swyddog) Carys Evans, Prif Ysgrifennydd y Comisiwn (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
||||
1. Introduction
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
1(iii) Cofnodion 16 Ionawr a 24 Ionawr i'w cytuno
Cytunwyd ar y cofnodion.
2. Allgymorth addysg
Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod y Comisiwn ar 16 Ionawr 2013, roedd y Comisiynwyr wedi holi eu grwpiau i gasglu eu barn am y cynnig i ymestyn y gwaith allgymorth addysg presennol i greu senedd ieuenctid. Rhannwyd adborth gan y grwpiau, a chytunwyd y byddent yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau i'r gwaith yn y maes hwn.
Nododd y Comisiynwyr y digwyddiad addysg a gynhaliwyd yn y Cynulliad yr wythnos hon, a'i fod yn enghraifft ragorol o'r gwaith safonol iawn a wneir yn y maes hwn, a phwysleisiwyd bod angen i'r digwyddiad ac unrhyw fentrau newydd adeiladu ar batrwm y gweithgaredd enghreifftiol hwn.
Bu'r Comisiynwyr yn trafod y dull gweithredu a awgrymwyd ar gyfer cynnwys grwpiau perthnasol yn y cynigion. Cytunwyd mai ffocws gweithgaredd o'r fath fyddai cynnwys grwpiau o bobl ifanc mewn ymarferion ar ddinasyddiaeth a democratiaeth, ac y byddai gwahaniaeth pendant rhyngddo â gweithgareddau a drefnir gan grwpiau a sefydliadau eraill. Cytunwyd hefyd y dylid cynnal adolygiad o'r gwaith amrywiol iawn a gyflawnir gan y gwasanaeth addysg, er mwyn nodi meysydd i ganolbwyntio arnynt o'r newydd. Dylai'r gwaith ymgorffori llwyddiannau a gwersi a ddysgwyd gan ddeddfwrfeydd eraill.
Gofynnodd y Comisiwn a fyddai modd cyflwyno canfyddiadau'r adolygiad mewn cyfarfod ym mis Ebrill, fel bod modd ystyried y camau nesaf.
3. Ystad sy'n addas i'r diben - Portico allanol
Yn dilyn trafodaeth ar 29 Tachwedd ynghylch awgrymiadau i wella mynedfa a derbynfa Tŷ Hywel, cyflwynwyd cyfres o gynigion newydd gan Peter Black AC a Sandy Mewies AC.
Nodwyd bod 100,000 o bobl yn defnyddio'r fynedfa i Dŷ Hywel bob blwyddyn a bod y trefniant presennol yn golygu bod ymwelwyr, gan gynnwys pobl ifanc sy'n dod ar ymweliadau addysg, yn aml yn gorfod aros mewn llinell y tu allan i'r prif ddrysau, ym mhob tywydd. Nododd y Comisiynwyr hefyd fod pobl sydd ag anableddau yn gorfod defnyddio mynedfa ar wahân.
Roedd y Comisiynwyr yn pryderu nad oedd y cyfleusterau yn:
Gan nodi nad yw'r cyfleusterau wedi cael eu gwella ers tua deng mlynedd, a bod angen eu hadnewyddu, cytunwyd y byddai'r cynigion diwygiedig i adeiladu mynedfa orchuddiedig yn darparu ateb ymarferol a rhesymol i’r problemau mynediad, diogelwch a chynaliadwyedd. Bydd y gwaith hwn yn digwydd yn ystod toriad yr haf er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar yr hyn sy'n digwydd yn yr adeilad. Byddai’r swyddogion yn ymchwilio i ba raddau y gellid gwella’r cynnig er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r gofod a fyddai ar gael.
4. Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd dim materion eraill i'w trafod.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Chwefror 2013